25.6.06

Llun o'r plant - Picture of the children

Weithau mae'n anodd cael lluniau da o'r plant yn enwedig Tomas, yr hynaf, sy'n ceisio osgoi lluniau yn cael eu tynnu ohono fe. Dyma llun ohonyn nhw tu allan i Tesco's Parc Spytty ac hefyd llun o Mary a Sinead tu mewn i goedwig Wentworth. (Cofiwch glicio ar y llun i weld y maint cywir)

Sometimes it's hard to get good pics of the children, especially Tomas who tries to avoid pictures being taken of him. Here's a picture of them outside Tescos in Spytty park and a picture of Mary and Sinead inside Wentworth forest. (Remember to click on the picture to see the correct size)

20.6.06

Carwyn yn dweud "celwyddau" - Carwyn telling 'lies'

Mae'n anodd i blant awtistig dweud celwyddau mae'n golygu elfen o ddychymyg nad oes ganddynt. Yn ddiweddar mewn cyd-destun chwarae mae wedi llwyddo i ddweud celwyddau diniwed. Mae'n rhywbeth i'w groesawu oherwydd mae'n dangos datbylygiad yn ei ddychymyg. Y bore'ma roedd enghraifft hyfryd. Fe ddes i lawr a roedd Carwyn yn eistedd wrth ochr Sinead oedd yn cuddio o dan blanced. "Ble mae Sinead" meddai wrth Carwyn "Dw i wedi ei bwyta hi" atebodd e gan ymestyn ei plat brecwast llawn o friwsion ataf. Roedd e'n foment i'w drysori.

It's difficult for autistic children to tell lies it needs an element of imagination that they have difficulties with. Recently Carwyn, in the context of a game, has begun to tell 'innocent' lies. This is something to welcome because it shows the development of his imagination. This morning there was a lovely example. I came down and Carwyn was sitting next to Sinead who was hiding under a blanket. "Where's Sinead?" I said to Carwyn "I've eaten her" he answered passing his plate of breakfast crumbs to me. ROFL

18.6.06


Cinio yn Waitrose/Dinner in Waitrose

Mae'n braf pryd rydym yn llwyddo i ffeindio lle arall i fynd a'n dau blentyn awtistig. Rydym yn arfer siopa yn Waitrose yn Y Fenni gan ei fod yn brofiad siopa ymlaciol iawn yn enwedig y system 'shop and scan' sy'n osgoi mynd trwy'r 'checkout'. Yn anffodus does dim llawer o fwydydd gall Carwyn (diet heb glwten) a Sinéad (diet cyfyng iawn) fwyta fel pryd bwyd yn y caffi. Hynny yw hyd at heddiw. Daeth y moment ewreka heb i fi dynnu fy nillad (yn wahanol i Archimedes wrth gwrs). Felly bacwn a wyau i Carwyn, tost a banana i Sinéad a chawl (tomato a basil – hyfryd) a rholyn bara i fi. (gweler llun)

Ffordd da o dreulio amser cinio dydd Sul i rhywun sy’n affyddiwr ac aeth i weld Jerry Springer the opera yr wythnos diwethaf yng Nghaerdydd. Dal i ddisgwyl am y mellten!

It’s great when we succeed in finding another place to take our 2 autistic children. We often go shopping in Waitrose in Abergavenny because it’s a relaxing way of shopping especially the ‘shop and scan’ system which avoids going through the checkouts. Unfortunately there is not much food that Carwyn (gluten free diet) and Sinéad (very limited diet) can eat as a meal in the cafe. That is until today. The Eureka moment came without me removing my clothes (unlike Archimedes of course). Therefore bacon and eggs for Carwyn, toast and banana for Sinéad and soup (tomato and basil – very nice) and bread roll for me. (see picture)

A good way of spending lunch time on Sunday for someone who’s an atheist who went to see Jerry Springer the opera last week in Cardiff. Still waiting for the lightening bolt!

16.6.06

Yn ol - Back


Dyma fi eto yn ol yn bloggio am fy nheulu gwallgo. Wedi cael seibiant am wahanol resymau ond nawr mae bywyd wedi dychwelyd i ryw fath o normalrwydd mae'n amser i fi ail-gymryd yr awennau i ddifyru fy nghynullfeidfa enfawr.

Pawb yn y teulu yn iach ac yn hapus. Mae Sinead (9 oed erbyn hyn) yn brysur iawn y dyddiau hyn rhwng pel-droed, 'brownies' ac athletau. Mae Carwyn (13 erbyn hyn) wedi gwneud yn andros o dda yn ei ysgol uwchradd newydd gyda chymorth yr uned awtistig yno. Mae'n anhygoel cymaint mae'n llwyddo o gyflawni mewn ysgol uwchradd gyda safon iaith o leiaf 4 blynedd tu ol ei gyf-oedion. Mae Tomas (15 oed ac bron mor dal a finnau) yn ymdopi gyda'r ysgol heb lawer o frwdfryfedd, ond pa blentyn 15 oed sy'n frwdfrydig mewn ysgol? Mae e'n cywno bod gwaith cartref yn amharu ar ei amser hamdden!

Mae Mary wedi gweithio caled iawn eleni i sefydlu'r uned awtistig (yr un mae Carwyn ynddi) ac erbyn hyn ar ol 6 mis heb lawer o gymorth gan y prifathro yno yn gweld ffrwyth ei llafur yn y ffordd mae'r plant yn llwyddo i integreiddio i mewn i weithgareddau a gwersi y prif-ffrwd. Fy hunan dw i wedi cael blwyddyn iawn gan ddysgu mwy o wersi Technoleg Gwybodaeth sy'n siwtio fi i'r dim. Dw i wedi gwneud llawer llai o waith gwleidyddol sydd wedi fy nghadael gyda llawer mwy o egni i wneud pethau fel mynd i'r 'gym' ar fy niwrnodau heb waith ac bod a mwy o egni i'r teulu. Mae'n bwysig i drio ffeindio cydbwysedd mewn bywyd.

Pob hwyl i bawb.

Back

Here I am again blogging about my mad family. Had a break for a number of reasons but now that life has returned to some sort of normality it's time to grasp the nettle again to amuse my enormous audience.

Everyone in the family is healthy and happy. Sinead (9 years old) is very busy these days with football, brownies and athletics. Carwyn (13) has done extremely well in his secondary school with the support of the autistic unit. It's amazing how much he succeeds in achieving in a secondary school with a language level at least 4 years behind his peers. Tomas (15 and almost as tall as me) is coping with work in school without much enthusiasm, but what 15 year old child is enthusiastic in school? He complains that homework interferes with his leisure time!

Mary has worked very hard in setting up the autistic unit (that Carwyn goes to) and by now, after 6 months without much support from the headteacher, is seeing the fruit of her labours in how well the children are integrating into lessons and activities in the mainstream. Myself, I have had an OK year in school teaching more IT lessons than usual, which suits me. I have much reduced my political activism which has left me a lot more time on my days off to relax and do healthy things like swim or go to the gym, it's also left me with more energy for my family. It's important to get a balance in life.

Good luck to everyone.