4.11.16

Duolingo Cwrs Cymraeg ac ati - Welsh Course on Duolingo etc

Dw i'n brysur iawn ar hyn o bryd yn ysgrifennu'r cwrs, gyda rhywfaint o help o bobl eraill. Daeth y cyfle yma ar ol ymgrych ar Facebook ac mewn llefydd eraill. Un o'r pobl cynta i gefnogi'r ymgyrch oedd yr actores Aimee-Ffion Edwards. Yr wythnos yma bues i'n gwylio Luther ar Netflix ac yn syfrdanu ar dalent Aimee. Dw i'n cofio ei dysgu hi yn yr ysgol ac yn benna dw i'n cofio sgwrs ym 2006 pan oedd hi'n gweithio yn yr ysgol am ychydig fel cynorthwydd. Roedd y stori mor anaferol dw i'n dal ei gofio. Soniodd hi am ei phrofiadau yn chwarae i dim rygbi bechgyn yn yr ardal, efallai Croesyceiliog, mewnwr oedd hi, tan flwyddyn 9.

No comments: