31.7.05


Byd Cadbury World

Taith i fyd Cadbury ddoe ac heddiw gyda Carwyn a Sinead. Wnaethon ni aros neithiwr mewn 'Travellodge' yn agos i Birmingham. Tro cyntaf i ni aros mewn rhyw fath o westy gyda'n gilydd. Eithaf da ar y cyfan. Ychydig bach yn boeth yn yr ystafell ond fel arall arbrawf llwyddiannus.

Roedd byd Cadbury yn effeithiol, llawer o hwyl i'r plant (ac i ni hefyd) ac, ar y cyfan, gwerth yr arian. Erbyn y diwedd roedden ni'n dechrau diflasu ychydig bwyta siocled ond chwarae teg i'r lle roedd digon o samplau am ddim ar gael.

Dyma lluniau o Carwyn a Sinead yn aros tu allan i'r drysau agor, mae'n syniad da i fynd y gynnar ac i fwcio ymlaen llaw, ac hefyd o arwydd (art-decoaidd?) Cadbury ar y ffatri.

Trip to Cadbury's world yesterday and today with Carwyn and Sinead. We stayed a night in a travellodge near to Birmingham. The first time for us to stay in any kind of hotel together. OK on the whole. A little hot in the room but otherwise a successful experiment.

Cadbury's world was effective, lots of fun to the children (and to us) and, on the whole, worth the money. By the end though we were beginning to weary of eating chocolate although there were plenty of free samples.

Here are picture of Sinead and Carwyn waiting outside for the doors to open, it's a good idea to go early and to book ahead, and also of the Cadbury sign (art-deckoish?) on the factory.

No comments: